Ymchwil

Strategaeth a chyhoeddiadau diweddar
Mae Ymddiriedolaeth Prawf De Cymru’n ymroddedig i ddatblygu ac ehangu ymchwil i’r hyn sy’n gweithio o ran lleihau ail-droseddu. Nod ein strategaeth 2007-10 yw cryfhau ein sylfaen tystiolaeth yng nghyswllt ymarfer effeithiol a chwrdd â’n targedau corfforaethol a’n hagenda ymarfer effeithiol.
Mae’r strategaeth yn pennu’r blaenoriaethau polisi ac ymarfer sy’n llywio’r agenda ymarfer, gyda thargedau Cynllun Busnes yr Ardal Mae’r rhain yn cynnwys:yn parhau’n sail ar gyfer clustnodi blaenoriaethau ymchwil i’r dyfodol.
  • asesu pa mor effeithiol yw ymyriadau
  • gwella dealltwriaeth o ganlyniadau gwasanaethau sy’n gweithio gyda throseddwyr, gan gynnwys grwpiau gwahanol
  • cael gwybodaeth gynhwysfawr yngl?n ag anghenion troseddwyr, dioddefwyr a chymunedau
  • cryfhau’r sylfaen wybodaeth yng nghyswllt ymarfer effeithiol gyda systemau a phrosesau rheoli troseddwyr
  • asesu pa mor effeithiol yw gwasanaethau a ddarperir drwy bartneriaeth
  • dynodi bylchau yn y sylfaen wybodaeth yng nghyswllt ymchwil
  • creu a chynnal cysylltiadau gyda’r gymuned ymchwil academaidd 
  • cyfleu canfyddiadau ymchwil i reolwyr ac ymarferwyr

Strategaeth Ymchwil 2007 - 10
Mae’r ddogfen hon yn nodi Strategaeth Ymchwil Ymddiriedolaeth Prawf De Cymru am y cyfnod 2007 – 10. Strategaeth Ymchwil YPDC 2007-10 (dogfen PDF)
Mae pob prosiect ymchwil ac arfarniadau effaith sy’n cael eu cynnal neu eu cyllido gan y Swyddfa Gartref wedi derbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Cymeradwyo Ansawdd Prosiect (BCAP) y Swyddfa Gartref [gweler isod].

Strategaeth Ymchwil YPDC 2007-10 – Atodiad B (dogfen PDF)

Strategaeth Ymchwil YPDC 2007-10 – Atodiad C (dogfen PDF)
Cliciwch isod y ddarllen y safonau sy’n sail i ymchwil APDC:
Ymchwil ac Arfarnu – Safonau YPDC (dogfen Word)


01656 674815