Gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr
Mae anghenion dioddefwyr trosedd yn cael mwy o flaenoriaeth yn y system cyfiawnder troseddol, ac mae hynny’n gwbl haeddiannol. Yr ydym yn gweithio’n glos â dioddefwyr troseddau treisgar difrifol neu droseddau rhyw difrifol er mwyn sicrhau eu bod yn deall y broses farnwrol.
Swyddogion Cyswllt Dioddefwyr
Bydd y Swyddog Cyswllt Defnyddwyr (SCD) yn cysylltu â’r dioddefwr, neu eu teulu, o fewn wyth wythnos i ddedfrydu’r troseddwr. Bydd y SCD yn cynnig cwrdd â’r dioddefwr i sicrhau eu bod yn deall beth yn union y mae’r ddedfryd yn ei olygu, yn ymarferol, am faint fydd y troseddwr dan glo, a beth fydd yn digwydd pan ddisgwylir iddo gael ei ryddhau i’r gymuned.
Mae’r gwasanaeth ar gael i ddioddefwyr mewn achosion lle mae’r troseddwr wedi’i garcharu am 12 mis neu ragor. Mae’n ddewisol, a does dim rhaid i ddioddefwyr ymateb i’n cynnig o gyswllt, os nad ydynt yn dymuno.
Mae gwaith y SCD yn gwbl ar wahân i waith y rheolwr troseddwyr ac ni fyddant yn trosglwyddo manylion unrhyw achos i unrhyw swyddog sy’n gweithio gyda’r troseddwr. Nid ydynt yn darparu gwasanaeth cwnsela, ond maent yn gallu cyfeirio dioddefwyr at asiantaethau eraill megis Cymorth i Ddioddefwyr.
Yn nes at ddyddiad rhyddhau’r troseddwr, bydd y SCD yn sicrhau bod y dioddefwr yn ymwybodol o’r dyddiad. Byddant yn gofyn bod unrhyw bryderon a allai fod ganddynt yn cael eu hystyried pan roddir trefn derfynol ar y drwydded. Er enghraifft, mae nifer o ddioddefwyr yn poeni y gallai’r troseddwr gysylltu â nhw neu ddod i fyw gerllaw. Er y bydd y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn trosglwyddo unrhyw bryderon, nid hwy sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch amodau’r drwydded.
Uned Diogelwch Menywod
Mae’r Uned Diogelwch Menywod yn gweithio’n benodol gyda menywod sydd wedi dioddef trais yn y cartref. Fel arfer, byddant yn gweithio ochr yn ochr â phartner dyn sy’n mynychu rhaglen i fynd i’r afael â thrais yn y cartref.
Mae’r Gweithiwr Diogelwch Menywod yn sicrhau bod y ddioddefwraig yn sylweddoli beth mae’r rhaglen yn ei gynnwys, y cynnydd y mae eu partner neu gyn-bartner yn ei wneud a gwybod bod ganddynt lwybr at rifau cyswllt brys a man diogel wedi’i drefnu ymlaen llaw.

