Perfformiad
Mae perfformiad da, yn erbyn ystod o fesurau, yn helpu i sicrhau bod y Gwasanaeth Prawf yn rheoli troseddwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.
Llywir ein hymarfer gan Safonau Cenedlaethol o ran amlder cyfarfodydd â throseddwyr sy’n cyflawni Gorchmynion Cymunedol ac mae set o dargedau cenedlaethol, a gynhyrchir gan y Gyfarwyddiaeth Brawf Genedlaethol, yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyfryngau sydd gennym i leihau’r risg o ail-droseddu.

