Coleddu Amrywiaeth, Cyflawni Llwyddiant

Ydych chi eisiau rhagori yn eich gwaith? Ydych chi wedi cael eich ysgogi i gyflawni amcanion? Os ydych chi, mae gennym agoriadau ar eich cyfer yn Ardal De Cymru, lle cewch gynnig gyrfaoedd newydd, estynnol a boddhaus mewn amgylchedd a fydd yn rhoi digon o gyfle i chi ddatblygu. Gallwch gyfrannu’n weithredol at ddatblygu arferion gwaith neu bolisïau newydd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth drwy grwpiau ffocws neu brosiect a gweithgorau.     
 
Mae gan yr Ymddiriedolaeth ymroddiad hirsefydlog i Amrywiaeth ac mae ganddi nifer o bolisïau ar waith sy’n adlewyrchu arferion da sydd wedi’u seilio ar egwyddorion cydraddoldeb. Mae gennym gysylltiadau cadarn â Grwpiau Cymunedol a Chydraddoldeb Hiliol, a byddwn yn cysylltu’n rheolaidd â Mynediad at Waith i gefnogi’r rheini sydd ag anableddau neu faterion eraill sy’n ymwneud ag iechyd. Yr ydym yn gweithio tuag at gael gweithlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob sector o’r gymuned. 
Mae gan yr Ymddiriedolaeth becyn cynhwysfawr o gynlluniau lles cyflogeion, gan gynnwys Rhwydweithiau Staff Cefnogi ar gyfer Staff Du ac Asiaidd, y rheini ag anableddau a staff lesbaidd/hoyw/deurywiol a thrawsrywiol, Nyrs Iechyd Galwedigaethol ac amrywiol gynlluniau i alluogi staff i ddilyn eu gyrfa mewn amgylchedd cefnogol. Cynlluniwyd ein Cynllun Rheoli Gyrfa i ddatblygu a chadw staff sgilgar er mwyn i chi allu cyflawni eich llawn botensial.


01656 674815