Pwy ydyn ni?
Ein Cefndir
Pwy ydyn ni?
Gyda swyddfeydd ledled y De, o Gaerdydd yn y Dwyrain i Abertawe yn y Gorllewin a Merthyr Tudful yn y Gogledd, rydym yn goruchwylio troseddwyr yn y gymuned er mwyn amddiffyn y cyhoedd a lleihau ail-droseddu. Yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, megis yr heddlu, carchardai, llysoedd a sefydliadau eraill gan gynnwys awdurdodau lleol, iechyd, addysg a thai er mwyn rheoli troseddwyr yn effeithiol ac effeithlon yn y gymuned.
Yr ydym yn ymroddedig i gynrychioli ein cymunedau lleol ac i gynnwys grwpiau lleiafrifol mewn gweithlu sgilgar, amrywiol, cadarn ei ddatblygiad.

