Ymateb gan fuddiolwyr
Mae Ymddiriedolaeth Prawf De Cymru’n ymhyfrydu yn y gwaith a wneir gan droseddwyr yn cyflawni gwaith di-dâl mewn cymunedau lleol, ac mae ganddynt le i fod yn falch.
Mae’r mudiadau a sefydliadau sydd wedi elwa o’r gwaith hwn hefyd yn gadarnhaol iawn, ac yr ydym yn derbyn llu o lythyrau diolch. Dyma rai enghreifftiau.
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Monica
“Hoffwn ddiolch o waelod calon am y gwaith a wnaed gan eich tîm ddoe. Mae’r potiau planhigion a’r t? chwarae’n edrych yn ffantastig.
Mae’r plant wrth eu bodd â’r cynllun ac mae’r staff yn hynod o ddiolchgar. Byddwn yn si?r o gysylltu’n fuan.”
Goleulong 2000 Canolfan Gristnogol ar Ddur
“Ysgrifennaf i ddiolch am y gwaith a wnaed yn ddiweddar ar y llong gan y tîm, dan arweiniad Rick.
Gwnaeth y tîm waith da’n paratoi’r llong ar gyfer y Flwyddyn Newydd ac rydym eisoes wedi clywed sawl un yn dweud mor lân a ffres mae’r llong yn edrych. Yr ydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus.”
Sefydliad Prydeinig y Galon - Pontypridd
“Rydym wir yn gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan y troseddwyr a’u Gwaith Di-dâl, achos maent yn gwneud cyfraniad hollbwysig at y gwaith bob dydd o redeg y siop, ac mae hynny’n golygu ein bod yn gallu cyfrannu ar lwyddiant parhaus ymchwil clefyd y galon.”
Abertawe Mwy Diogel
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Gwasanaeth Prawf ar ran Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel a Diogelwch Cymunedol am ei gyfraniad yn clirio graffiti a phosteri anghyfreithlon a’i help yn clirio sbwriel.”
Ysgol Gynradd Grange
“Teimlais fod rhaid i mi ysgrifennu atoch i ddweud wrthych mor wych oedd y tîm Gwaith Di-dâl pan oeddent yn gweithio yn ein hysgol. Maen nhw wedi gweithio’n ofnadwy o galed i gynnal libart helaeth ein hysgol.
“Maen nhw wedi cyflawni amrywiaeth sylweddol o dasgau, gan gynnwys chwynnu, brwsio patios a mynedfeydd, tocio perthi, cludo tomenni o risgl, symud cerrig mawr i wneud lle ar gyfer decio ayb ayb ayb... Does dim byd wedi bod yn ormod o drafferth ganddyn nhw.
“Maen nhw wedi ymddwyn yn gwbl barchus bob amser ac yn ddiolchgar am bob lluniaeth a roddwyd iddyn nhw.”

