Gwneud Iawn รขr Gymuned
Gwneud Iawn â’r Gymuned yw’r enw a roddir i’r gwaith di-dâl y bydd troseddwyr yn ei gyflawni yn y gymuned fel rhan o Orchymyn Cymunedol.
Rhaid i brosiectau y mae’r Gwasanaeth Prawf yn ymgymryd â hwy fodloni rhai meini prawf penodol:
- Rhaid iddynt fod er budd y gymuned leol
- Rhaid iddynt beidio â chymryd gwaith am dâl oddi ar bobl eraill
- Ni chaiff neb wneud elw o’r gwaith
- Rhaid i’r gwaith fod yn werth chweil ac yn adeiladol ac yn rhoi sgiliau newydd i droseddwyr
- Rhaid i droseddwyr gael eu gweld yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Os oes gennych chi brosiect a allai fodloni’r meini prawf hyn, mae croeso i chi lenwi ffurflen postio-prosiect.


